top of page

Amdanom Ni

Ein Gwasanaethau

Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando ar gyfer y rhai sydd yn unig, yn drallodus neu yn ystyried diweddu eu bywydau ac rydym ar gael 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn. Rydym yn ceisio gweithio gyda’n gilydd i geisio lleddfu’r teimladau hyn o unigrwydd a diffyg cysylltiad a all arwain at hunanladdiad, ond rydym yma ar gyfer pawb sydd angen clust i wrando a’r cyfle i fynegi eu teimladau a’u pryderon, nid yn unig y rhai sydd yn teimlo bod hunanladdiad yn anochel. Ni fyddwn byth yn barnu ac weithiau, oherwydd amgylchiadau, gall fod yn haws ymddiried mewn rhywun sydd yn gwbl anhysbys. 


Gweledigaeth y Samariaid yw y bydd llai’n marw o hunanladdiad. Mae’n bosib rhwystro hunanladdiad, nid yw’n anochel. Mae’r rhesymau am hunanladdiad yn gymhleth, ond tu ôl i bob ystadegyn mae unigolyn sydd yn gadael teulu a chymuned wedi eu dryllio gan eu colled.

Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando ar y ffôn (yn Gymraeg a Saesneg), gwasanaeth e-bost (yn Saesneg yn unig) a gwasanaeth ysgrifennu llythyr (yn Gymraeg a Saesneg). Mae’n bosib ymweld â’r Ganolfan i gael cymorth wyneb yn wyneb (ond mae’r gwasanaeth yma wedi’i atal ar hyn o bryd oherwydd y pandemic Cofid 19) - gweler y manylion sut i gysylltu â ni ar gyfer pob gwasanaeth.  

 

Rydym hefyd yn datblygu gwasanaeth Sgwrsio ar Lein (yn Saesneg) sydd ar gael ar adegau penodol ac yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd ar wefan gyffredinol y Samariaid pan fydd ar gael; mae’r gwasanaeth yn cael ei ehangu drwy’r amser. 

CANGEN GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU O’R SAMARIAID 

 

Mae ein cangen ni yn un o 201 o ganghennau y Samariaid ledled Cymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon.  Sefydlwyd y Gangen yn 1983 ac rydym wedi ein lleoli yn awr mewn adeilad pwrpasol ar Barc Menai yn ymyl Bangor.  Mae ein hardal yn cynnwys siroedd Gwynedd, Ynys Môn a Gorllewin Conwy. Mae pawb yn ein Cangen yn wirfoddolwyr di-dal ac wedi cwblhau cwrs hyfforddi trwyadl cyn cael eu derbyn i wneud y gwaith.  

 

Yn ychwanegol i ddarparu gwasanaethau craidd y Samariaid, mae ein Cangen yn cynnig yn lleol: 

  • ateb ffonau uniongyrchol ar Bont Telford a Phont Grog Menai ar gyfer y rhai mewn trallod 

  • ymweliadau â threfi a phentrefi, sioeau, martiau da byw, eisteddfodau a digwyddiadau led led yr ardal i hybu ymwybyddiaeth am ein gwasanaethau – mae gennym gerbyd cymunedol arbennig i’r pwrpas 

  • ymweliadau ag ysgolion uwchradd a cholegau i gynnig Gweithdai Iechyd Meddwl 

  • cynnig gweithdai i fusnesau a sefydliadau ar sgiliau gwrando a delio â phryder ac iechyd meddwl 

  • sgyrsiau i grwpiau a chymdeithasau am ein gwaith. 

bottom of page