Datganiad Preifatrwydd
​
​
CYFLWYNIAD
Yn y Samariaid, mae preifatrwydd wrth wraidd yr hyn rydym ni'n ei wneud.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a'r wybodaeth bersonol a gedwir gennym. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â chyfraith diogelu data, ac i beidio â gwneud unrhyw beth â'ch gwybodaeth na fyddech yn ei ddisgwyl yn rhesymol.
Pwrpas y datganiad hwn yw bod yn glir ac yn dryloyw ynghylch sut mae Samariaid Bangor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth, ein cefnogwyr, ein cwsmeriaid, ein gwirfoddolwyr yn ogystal ag i'r cyhoedd ac ymwelwyr â'n hadeiladau. Mae hefyd yn berthnasol i'n contractwyr, ein trydydd partïon a’n partneriaid.
Mae Samariaid Bangor yn elusen annibynnol, ar wahân i Elusen Ganolog y Samariaid ond gyda chytundeb penodol i weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r gwasanaeth. O'r herwydd, mae achosion lle mae Samariaid Bangor yn dod i gysylltiad â, yn rhannu ac yn prosesu data personol â/ar gyfer Elusen Ganolog y Samariaid. Bydd y datganiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut mae Samariaid Bangor yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Er mwyn cael dealltwriaeth gyflawn o sut mae eich data personol yn cael ei brosesu pan fyddwch chi’n ymwneud â'r Samariaid, rydym yn argymell eich bod hefyd yn darllen Datganiad Preifatrwydd Elusen Ganolog y Samariaid.
Newidiadau i'r Datganiad Preifatrwydd hwn
Wrth i'r gwasanaeth rydym ni’n ei ddarparu newid, efallai y bydd angen i ni newid y Datganiad Preifatrwydd hwn. Cofiwch edrych ar y dudalen hon o bryd i'w gilydd i weld a ydym wedi cynnwys unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau, a'ch bod yn hapus â nhw.
-
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y datganiad hwn, cysylltwch â:
SUT RYDYM NI'N DEFNYDDIO GWYBODAETH BERSONOL
1 PAN FYDDWCH CHI'N DEFNYDDIO GWASANAETH Y SAMARIAID
Mae'r Samariaid yn cefnogi pobl mewn trallod drwy eu gwasanaeth cefnogi. Mae ein gwasanaeth ar gael dros y ffôn, drwy e-bost, llythyr a sgwrs ar-lein, ac wyneb yn wyneb.
Darperir y gwasanaethau hyn gan wirfoddolwyr mewn canghennau. Mae'r llinellau cymorth wedi'u cynllunio fel na all gwirfoddolwyr y Samariaid weld eich manylion cyswllt ac rydym yn ceisio cadw cyn lleied o wybodaeth amdanoch chi â phosibl yn y gangen. Gall gwirfoddolwyr gymryd nodiadau pan fyddan nhw’n siarad â chi i gynorthwyo yn ystod y sgwrs. Caiff y nodiadau hyn eu llarpio ar ddiwedd yr alwad. Nid ydym yn recordio eich galwadau ffôn i'r llinell gymorth, ond o bryd i'w gilydd gall gwirfoddolwyr a staff wrando ar alwadau at ddibenion hyfforddi, ansawdd, cymorth, neu ymchwil.
Ar ddiwedd pob cysylltiad, mae gwirfoddolwyr mewn canghennau yn cofnodi gwybodaeth ar system ganolog a reolir gan Elusen Ganolog y Samariaid. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys pa mor ofidus oedd y galwr ar adeg y cysylltiad, a rhyw, oedran (os y’i rhoddir) a phryderon y galwr. I gael gwybodaeth am sut mae Elusen Ganolog y Samariaid yn defnyddio'r data hwn, gweler Datganiad Preifatrwydd Elusen Ganolog y Samariaid.
Pan fyddwn yn darparu cefnogaeth emosiynol mewn lleoliadau y tu allan i'r canghennau, bydd ein gwirfoddolwyr yn cymryd camau i sicrhau bod unrhyw nodiadau a gymerir yn cael eu cadw'n ddiogel a'u llarpio'n ddiogel ar ôl i'r data gael ei gofnodi yn y gronfa ddata ganolog.
1.1 Diogelu
Pan fyddwn ni’n poeni am eich diogelwch neu’n poeni eich bod yn cael eich brifo naill ai gan eich gweithredoedd eich hun neu gan rywun arall, rydym eisiau eich helpu chi i ddod o hyd i'r ffordd orau o gadw'ch hun yn ddiogel.
Byddwn yn gwneud hyn trwy wrando a thrwy siarad â chi am beth rydych chi eisiau ei wneud. Y rhan fwyaf o'r amser, bydd beth bynnag a ddywedwch wrthym ni yn aros rhyngoch chi a'r Samariaid. Fodd bynnag, os ydym ni'n teimlo nad ydych chi’n gallu gwneud penderfyniadau drosoch eich hun, efallai weithiau bydd angen i ni ddweud wrth rywun arall beth rydych chi wedi'i ddweud wrthym ni er mwyn gallu eich helpu.
Bydd hyn yn berthnasol i bob plentyn (unrhyw un o dan 18 oed). O dan rhai amgylchiadau gall hefyd fod yn berthnasol i oedolion, er enghraifft, os ydych chi'n oedolyn mewn perygl (oedolyn sydd ag anghenion iechyd neu ofal ychwanegol sy'n eich rhwystro rhag diogelu eich hun).
Os byddwch chi’n rhannu gwybodaeth â ni sy’n cynnwys manylion am blentyn neu oedolyn mewn perygl sy'n dioddef cam-drin neu niwed, ar ôl trafodaeth â chi, efallai y byddwn ni’n cysylltu â gwasanaethau perthnasol eraill.
Dim ond os oes gennym ni wybodaeth adnabod amdanoch chi y gallwn ni wneud hyn.
Mae eich cyfrinachedd yn bwysig iawn i ni a byddwn ond yn ystyried siarad â rhywun arall os ydym ni'n bryderus iawn am beth rydych chi wedi'i ddweud wrthym ac yn teimlo nad ydych chi'n gallu gwneud penderfyniadau.
Gweler ein Polisi Diogelu am ragor o wybodaeth.
1.2 Cymorth ychwanegol
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn ni'n cynnig eich ffonio'n ôl neu i chi ein ffonio ni ar amser y cytunir arno. Yn yr achosion hyn, byddwn yn cofnodi gwybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni ar gyfer gwneud yr alwad ddilynol. Efallai y bydd angen i ni rannu'r wybodaeth hon yn fewnol oherwydd ein bod ni'n gweithio fel tîm i roi'r cymorth gorau posibl i chi ac eisiau sicrhau bod y person y byddwch chi'n siarad ag ef yn gyfarwydd â'ch sefyllfa.
Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi i gynnig cymorth os cewch eich atgyfeirio atom ni gan sefydliad neu unigolyn arall. Ar ôl i ni gysylltu â chi, byddwn yn dinistrio'ch manylion cyswllt, oni bai eich bod chi'n cytuno i gysylltiad pellach – os digwydd hynny, gyda'ch caniatâd chi, byddwn yn cadw eich manylion cyswllt.
1.3 Rhannu eich gwybodaeth
Ni fydd Samariaid Bangor byth yn rhannu gwybodaeth y tu allan i'r Samariaid, ac eithrio yn y sefyllfaoedd canlynol:
-
rydym yn cael galwad am weithredoedd terfysg neu rybuddion bom
-
rydym yn cael gorchymyn llys sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni rannu gwybodaeth
-
rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad arall ac rydych chi wedi rhoi caniatâd i'ch gwybodaeth gael ei rhannu
-
rydych chi’n gofyn yn uniongyrchol i ni drosglwyddo gwybodaeth amdanoch chi i rywun arall
-
rydym yn pryderu nad ydych chi’n gallu gwneud penderfyniad drosoch eich hun (darllenwch fwy am ein polisi diogelu)
-
rydych chi’n bygwth diogelwch ein gwirfoddolwyr
-
rydych chi’n camddefnyddio neu'n peryglu ein gwasanaeth, er enghraifft trwy ei gwneud hi'n anodd i bobl eraill gysylltu
1.4 Hyfforddi a monitro (‘gwrando i mewn’)
Er nad ydym ni byth yn recordio eich galwadau ffôn i’n llinell gymorth, mae yna achlysuron pan fydd angen i ail wirfoddolwr 'wrando i mewn' ar alwad fyw sy’n cael ei chymryd gan wirfoddolwr arall. Rydym yn gwneud hyn i:
-
Hyfforddi Samariaid newydd: Er mwyn paratoi ein gwirfoddolwyr newydd yn iawn i gymryd galwadau, byddant yn ymgymryd â chyfnod o ‘wrando i mewn’ ar wirfoddolwr profiadol. Ar ôl cyfnod o amser, pan fydd y Samariad newydd yn dechrau cymryd galwadau ei hun, bydd y gwirfoddolwr profiadol wedyn yn gwrando ar ei alwadau er mwyn cynnig arweiniad a chefnogaeth. Mae hyn at ddiben hyfforddi Samariaid newydd yn unig ac nid oes unrhyw newid o ran y wybodaeth a gesglir yn ystod galwad arferol.
-
I fonitro ansawdd ein gwasanaeth: Yn 2021, sefydlwyd Hyb Ansawdd y Samariaid. Mae gwirfoddolwyr yn yr hyb ansawdd yn monitro ac yn asesu cysylltiadau ffôn ac yn nodi gwasanaeth gwael neu eithriadol trwy ‘wrando i mewn’ ar hapsampl o alwadau. Mae hyn at ddiben monitro ansawdd y galwadau a gymerir gan ein gwirfoddolwyr. Gellir cofnodi gwybodaeth am berfformiad y gwirfoddolwr, ond ni chofnodir unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â chynnwys y cysylltiad.
Ym mhob un o'r amgylchiadau hyn, mae'r rhai sy'n 'gwrando i mewn' wedi'u hyfforddi ac yn destun yr un polisïau â'r unigolyn sy’n cymryd yr alwad.
2 PAN FYDDWCH CHI'N GWNEUD CAIS I WIRFODDOLI GYDA NI
Pan fyddwch chi'n cysylltu â Samariaid Gogledd-orllewin Cymru yn uniongyrchol ynglÅ·n â gwirfoddoli gyda'r Samariaid, efallai y gofynnir i chi roi eich manylion personol inni fel y gallwn gysylltu â chi mewn perthynas â'ch ymholiad.
Os ydych chi wedi cysylltu ag Elusen Ganolog y Samariaid ynglÅ·n â chyfleoedd gwirfoddoli, gweler Datganiad Preifatrwydd Elusen Ganolog y Samariaid am ragor o wybodaeth am sut y byddant yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
2.1 Eich cais
Gallwch wneud cais i fod yn wirfoddolwr gyda'r Samariaid drwy wefan Elusen Ganolog y Samariaid. Pan fyddwch chi’n gwneud hynny, bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at eu cronfa ddata ganolog, a byddant wedyn yn ei rhannu â'r gangen berthnasol. Bydd Elusen Ganolog y Samariaid yn gyfrifol am brosesu rhannau penodol o'ch cais, megis gwybodaeth gan eich canolwyr a'ch datgeliad cofnodion troseddol (DBS). Am ragor o wybodaeth gweler Datganiad Preifatrwydd Elusen Ganolog y Samariaid.
Unwaith y bydd eich gwybodaeth wedi'i throsglwyddo i ni, bydd Samariaid Bangor yn ei defnyddio i brosesu eich cais, asesu eich addasrwydd a chysylltu â chi ynglÅ·n â chyfweliadau, hyfforddiant a chyfleoedd eraill i ymgysylltu â'r gangen.
Bydd y Samariaid yn cadw'r wybodaeth bersonol a roddwch i ni yn ystod y broses ymgeisio yn gyfrinachol, oni bai bod gofyn i ni ei datgelu mewn cysylltiad ag ymchwiliad heddlu a/neu fod gennym reswm i gredu y gallech chi beri risg o niwed i eraill.
2.2 Pan fyddwch chi'n dod yn wirfoddolwr
Fel aelod o Samariaid Bangor, rydym yn dal gwybodaeth amdanoch chi fel y gellir ei defnyddio i gyfathrebu â chi ynghylch gweinyddiaeth y gangen ac i gofnodi a rheoli eich ymwneud â'r gangen.
Mae'r datganiadau canlynol yn disgrifio sut rydym yn defnyddio eich data at ddibenion rhedeg y gangen:
-
Byddwn yn defnyddio eich data i gofnodi eich ymwneud â'r gangen ac i reoli eich rota trwy Three Rings.
-
Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ar gronfa ddata ganolog i ganiatáu i Samariaid eraill o'r gangen gysylltu â chi ac i chi gysylltu â nhw er mwyn rheoli'r broses o gyfnewid shifftiau.
-
Byddwn yn rhannu eich data gydag Elusen Ganolog y Samariaid i gofnodi eich ymwneud â'r gangen ac i reoli eich rôl fel gwirfoddolwr o fewn sefydliad y Samariaid.
-
Byddwn yn cyfathrebu â chi ynghylch eich rôl a gweinyddiaeth y gangen trwy'r post ac e-bost.
Mae'r Gangen hefyd yn cadw data personol gwirfoddolwyr yn y categorïau canlynol:
-
e-byst, negeseuon testun, a llythyrau at/gan wirfoddolwyr
-
copïau o hawliadau parcio ac ati ynghyd â manylion banc
-
llyfrau ymwelwyr, manylion mewngofnodi
-
rhestrau o wirfoddolwyr a gynhyrchir at ddibenion penodol (ee dyletswyddau arbennig)
-
cliriad heddlu, cliriad ar gyfer ymweliadau â charchardai a dogfennaeth ategol
-
gohebiaeth sy'n gysylltiedig â chwynion am wirfoddolwyr
-
adroddiadau mentora
-
gohebiaeth amrywiol
-
cofnodion hyfforddi
Mae defnyddio eich data personol yn y ffyrdd hyn yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni buddiannau dilys y gangen a sefydliad ehangach y Samariaid er mwyn sicrhau eu gweithrediad effeithlon.
Ni fydd y Samariaid byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti nac yn caniatáu i unrhyw drydydd parti ei defnyddio at ei ddibenion ei hun.
3. PAN FYDDWCH CHI'N DEWIS EIN CEFNOGI
Os ydych chi wedi rhoi rhodd yn uniongyrchol i Elusen Ganolog y Samariaid, gweler Datganiad Preifatrwydd Elusen Ganolog y Samariaid am wybodaeth am sut maen nhw'n defnyddio eich data.
3.1 Rhoi rhodd
Pan fyddwch chi'n rhoi rhodd yn uniongyrchol i Samariaid Bangor, mae angen i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth benodol amdanoch chi er mwyn prosesu'ch rhodd. Gallai hyn gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn neu ffôn symudol, manylion banc, statws trethdalwr (i gadarnhau a ydym ni'n gallu hawlio Rhodd Cymorth), dyddiad geni a chofnod o roddion blaenorol. Mae eich data personol yn cael ei storio ar weinydd diogel a'i brosesu gan ein darparwr gwasanaeth talu.
3.2 Codi arian a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Os byddwch chi'n rhoi rhodd i Samariaid Bangor trwy lwyfan codi arian ar-lein (fel Virgin Money Giving, Just Giving neu Enthuse) neu'n cofrestru ar gyfer digwyddiad neu her er budd y Samariaid trwy drefnwyr digwyddiad trydydd parti (ee Her Elusennau neu Action Challenge), byddant yn trosglwyddo'ch gwybodaeth atom ni fel y gallwn ni gofnodi a phrosesu eich rhodd a/neu weinyddu eich cofrestriad. Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau ein bod wedi cael eich rhodd/cofrestriad ac i holi a hoffech chi gadw mewn cysylltiad yn y dyfodol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen datganiadau preifatrwydd y platfform codi arian a/neu drefnwyr y digwyddiad, gan y bydd hynny'n egluro sut maen nhw'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at eu dibenion eu hunain.
3.3 Hawlio Rhodd Cymorth
Rydym yn dibynnu ar eich caniatâd er mwyn hawlio Rhodd Cymorth, ac ar ein buddiant dilys o ran codi arian ar gyfer prosesu taliadau.
Os ydych chi wedi gwneud datganiad Rhodd Cymorth, bydd angen i ni ddatgelu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych chi fel rhan o'n datganiad i Gyllid a Thollau EF at ddiben hawlio Rhodd Cymorth.
GWEITHGAREDDAU ERAILL A DREFNIR GAN Y SAMARIAID
4 GWASANAETHAU ADDYSG Y SAMARIAID
4.1 Pan fyddwn yn ymweld ag ysgolion a cholegau
Pan fyddwn ni'n cynnal sgyrsiau a gweithdai ac unrhyw fath arall o ymweliad â sefydliad addysgol neu leoliad ieuenctid, bydd ein cangen yn cofnodi'r ymweliad ar Three Rings. Bydd y cofnod hwn yn cynnwys:
-
enw a chyfeiriad y sefydliad
-
y math o ymweliad a gynhaliwyd
-
nifer y bobl ifanc yr ydym wedi siarad â nhw
Dim ond o fewn y Samariaid y defnyddir y wybodaeth hon ac ni chaiff byth ei rhannu'n allanol. I gael gwybod sut y defnyddir y wybodaeth hon gan Elusen Ganolog y Samariaid, gweler Datganiad Preifatrwydd Elusen Ganolog y Samariaid.
5 SUT RYDYM YN CADW EICH GWYBODAETH YN DDIOGEL
Mae'r Samariaid yn defnyddio amrywiaeth o fesurau technegol a threfniadol i gadw eich data personol yn ddiogel. Mae data electronig a chronfeydd data yn cael eu storio ar systemau cyfrifiadurol diogel ac rydym yn rheoli pwy sydd â mynediad at wybodaeth, gan ddefnyddio dulliau corfforol ac electronig. Mae ein gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ac mae'n rhaid iddynt ddilyn canllawiau a ddarperir ar eu cyfer wrth drin gwybodaeth bersonol.
Er ein bod yn gwneud ein gorau i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd byth yn gwbl ddiogel, felly cofiwch hyn pan fyddwch chi'n rhannu gwybodaeth â ni trwy ein gwefan.
5.1 Rhannu eich gwybodaeth
Ni fydd y Samariaid yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill, ac eithrio yn y sefyllfaoedd canlynol:
-
rydym yn cael galwad am weithredoedd terfysg neu rybuddion bom
-
rydym yn cael gorchymyn llys sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni rannu gwybodaeth
-
rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad arall ac rydych chi wedi rhoi caniatâd i'ch gwybodaeth gael ei rhannu
-
rydych chi’n gofyn yn uniongyrchol i ni drosglwyddo gwybodaeth amdanoch chi i rywun arall
-
rydym yn pryderu nad ydych chi’n gallu gwneud penderfyniad drosoch eich hun (darllenwch fwy am ein polisi cyfrunacgedd yma)
-
rydych chi’n bygwth diogelwch ein gwirfoddolwyr
-
rydych chi’n camddefnyddio neu'n peryglu ein gwasanaeth, er enghraifft trwy ei gwneud hi'n anodd i bobl eraill gysylltu
Pan fyddwch chi'n rhoi rhodd i'r Samariaid, efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol os gofynnir i ni wneud hynny gan reoleiddiwr neu gyrff gorfodi'r gyfraith, neu mewn sefylla lle mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny. Efallai y bydd angen i ni hefyd rannu eich gwybodaeth â sefydliadau allanol mewn achos o dwyll tybiedig neu er mwyn atal neu ganfod troseddau eraill.
5.2 Am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth
Dim ond cyhyd ag sydd ei angen y byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol, yn dibynnu ar y rheswm pam y cafodd ei chasglu, ac yn unol â gofynion cyfreithiol a rheolau treth a chyfrifyddu.
Os ydych chi wedi dweud wrthym nad ydych chi eisiau i'r Samariaid gysylltu â chi, byddwn yn cadw eich manylion ar restr 'atal' i helpu i sicrhau nad ydym yn parhau i gysylltu â chi.
5.3 Cadw eich gwybodaeth yn gyfredol
Os yw eich manylion personol wedi newid, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â'r gangen:
Cyfeiriad: 5 Llys Onnen, Parc Menai LL57 4DF
Ffôn: 01248 674984
6 EICH HAWLIAU
Mae'r cyfreithiau diogelu data yn rhoi rhai hawliau i chi dros eich gwybodaeth bersonol a sut rydym yn ei defnyddio. Mae'r rhain yn cynnwys:
-
yr hawl i gael mynediad at gopi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi;
-
yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch chi;
-
yr hawl, mewn rhai amgylchiadau, i wrthwynebu defnyddiau penodol o'ch data; ac
-
yr hawl, mewn rhai amgylchiadau, i ofyn am ddileu'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
-
yr hawl, mewn rhai amgylchiadau, i beidio â bod yn destun penderfyniad yn seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, gan gynnwys proffilio.
Os ydych chi eisiau arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, anfonwch eich cais at:
• Lin.Macdonald@Samaritans.org
Os yw eich cais yn ymwneud â gwybodaeth a gedwir gan Elusen Ganolog y Samariaid:
-
anfonwch eich cais ysgrifenedig drwy e-bost i dataprotection@Samariaid.org neu
-
anfonwch eich cais at sylw tîm Cyfreithiol a Llywodraethu (the Legal & Governance team) yn y Samariaid, The Upper Mill, Kingston Road, Ewell, Surrey, KT17 2AF.
Os mai dim ond ag un gangen rydych chi mewn cysylltiad, gallwch gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig i'r gangen honno.
6.1 Gwneud cwyn
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am sut y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, neu os ydych chi'n anfodlon â sut rydym ni wedi trin eich data personol ac yn dymuno cysylltu â ni, anfonwch eich pryderon at Lin.Macdonald@Samaritans.org neu at Elusen Ganolog y Samariaid drwy e-bostio dataprotection@samaritans.org
Mae gennych chi hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i'r rheoleiddiwr perthnasol ynghylch sut yr ydym yn defnyddio eich data personol. Mae manylion pellach isod:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Y Deyrnas Unedig
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/make-a-complaint/
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Gogledd Iwerddon
Ffôn: 0303 123 1114
E-bost: ni@ico.org.uk
Cyfeiriad: 3rd Floor, 14 Cromac Place, Belfast, BT7 2JB
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn Jersey
Ffôn: +44 (0) 1534 716530
E-bost: enquiries@jerseyoic.org
Cyfeiriad: 2nd Floor, 5 Castle Street, St. Helier, Jersey, JE2 3BT
​
Chwef2026


